Beth yw Defaid?
Mae Defaid yn wefan ryngweithiol sy’n annog creadigrwydd a chysylltiad uniongyrchol wrth ddarparu gwybodaeth am weithgareddau a gwasanaethau sydd ar gael i bob un ohonoch chi, bobl ifanc da Ynys Môn.
Mae’r safle yn gweithredu o fewn dy Ddeg Hawl (hawliau pobl ifanc fel y cyflwynir hwy gan Lywodraeth Cynulliad Cymru) ac mae’n cyd-fynd gyda’r Siarter Ewropeaidd Gwybodaeth Ieuenctid.
Mae Defaid yn rhan o CLIC, y Gwasanaeth Gwybodaeth a Chyngor Cenedlaethol i bobl ifanc yng Nghymru, ac yn cynnwys adran gwybodaeth, porthwyr RSS, defnyddio chwaraewyr cyfryngau a YouTube i wella’r cynnwys, y gallu i arddangos erthyglau pobl ifanc ar y wefan genedlaethol a dros siroedd eraill os yn berthnasol i bobl ifanc yng Nghymru, dwyieithog. Mewn datblygiad mae fersiwn graffeg isel, ac integreiddio Defaid i ddefnyddio dyfeisiau darllen sgrin.
Mae grŵp Golygyddol rhwng 11 a 25 oed yn cyfarfod yn rheolaidd ac yn gyfrifol am ysgrifennu, rhoi adroddiadau, tynnu lluniau, dylunio, hyrwyddo ac unrhyw beth arall a deimlant y dylid ei gynnwys. Maent hefyd yn gwneud penderfyniadau am gynnwys a newidiadau technegol.
Os oes gen ti ddiddordeb mewn ymuno â’r grŵp neu fynd i un o’r cyfarfodydd, cysyllta gyda’r Golygydd: gwybodaeth@defaid.com
Beth ydy’r swyddogaeth ‘Sefydliadau’?
Mae’r swyddogaeth sefydliadau yn dweud enw, cyfeiriad, rhif ffôn, cyfeiriad gwefan, e-bost a disgrifiad o’r gwasanaethau sydd ar gael i bobl ifanc ar Ynys Môn o’n cyfeirlyfr sefydliadau.
Pwy sy’n ei redeg?
Mae ProMo-Cymru/CLIC wedi cael ei dasgu i gyflenwi Defaid ar ran Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc Ynys Môn (PPPI). Mae’r ochr sefydliadau a gwybodaeth yn cael ei arolygu gan Wasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Ynys Môn.
Pwy sydd wedi ei ddylunio?
Pobl ifanc ar Ynys Môn mewn partneriaeth â’r PPPI Ynys Môn, ProMo-Cymru/CLIC a chwmni dylunio creadigol o’r enw Burning Red, gynhyrchodd y wefan hon.
Beth mae o angen?
Ei fwydo! Bwyda Defaid gyda beth bynnag ti eisiau ei rannu: newyddion, adolygiadau, ysgrifennu creadigol, rhagolygon, erthyglau nodwedd, neu rho wybod i bawb am dy ddigwyddiadau neu dy farn. Defnyddia ef i ddatblygu dy sgiliau newyddiadurol. Mae gen ti’r gallu i ychwanegu fideos o YouTube i’r eitemau newyddion, a gall lwytho hyd at bum delwedd i gyd-fynd â dy stori. Gall hefyd nodi pa mor gyfeillgar ti’n teimlo mae sefydliad wedi bod tuag atat ti wrth ddefnyddio eu gwasanaeth.
Sut gallaf i weld fy ngwaith ysgrifennu ar Defaid?
Cymera dau funud i gofrestru a gall ddechrau cyflwyno deunydd. Os wyt ti angen help, e-bostia gwybodaeth@defaid.com.
Beth arall gall ei wneud?
Mae’n caniatáu i ti addasu cefndir dy dudalen cartref. Edrycha ar y gwahanol themâu sydd ar gael, Os wyt ti’n teimlo’n greadigol, darllena ein canllaw cyflwyniad sydyn a chyflwyno un dy hun.
Felly, yn gryno:
Beth yw Defaid?
- Gwefan ryngweithiol sy’n cynnig gwybodaeth, newyddion a chyngor i holl bobl ifanc 11 i 25 oed ar Ynys Môn
- Mae’n caniatáu i bobl ifanc a sefydliadau sy’n gweithio gyda nhw lwytho erthyglau, lluniau, fideos a themâu cefndir
- Mae grŵp Golygyddol o bobl ifanc yn arwain datblygiad y safle
- Integredig â CLIC, y Gwasanaeth Gwybodaeth a Chyngor Cenedlaethol yng Nghymru
- Mae’r cynnwys yn cael ei greu gennych chi a’r sefydliadau sy’n cefnogi eich gweithgareddau
- Mae’n caniatáu i ti ddweud beth ti eisiau ac yn hyrwyddo ti i gyfnewid sylwadau efo eraill
- Mae’n creu, datblygu a rhannu gwybodaeth yn lleol ac yn genedlaethol
- Mae rhannu deunydd amlgyfrwng yn dangos dy syniadau creadigol a sgiliau
- Mae’n hyrwyddo cyfranogiad a chynhwysiant drwy grŵpiau golygyddol a arweinir gan ieuenctid
- Mae’n gweithio’n agos gyda rhwydweithiau gwybodaeth i ieuenctid ar draws Cymru i rannu adnoddau
- Llwyfan i ti a sefydliadau eraill i roi cyhoeddusrwydd i dy gynnydd a chyflawniadau
- Mae’n amlygu syniadau ac arferion da i bawb ddysgu oddi wrthynt
- Gall ddarganfod am brosiectau a sut i gymryd rhan o bob rhan o Gymru
Cwestiynau Cyffredin Defaid – dy alwad cyntaf am bob cwestiwn sy’n gysylltiedig â Defaid.
