Brwydr Y Bandiau 2011
English version
Eisiau chwarae ym Merthyr Rock? Dyma dy gyfle!
Eleni, mae Brwydr y Bandiau CLIC Cymru gyfan mewn cysylltiad â Merthyr Rock, yr ?yl gerddoriaeth newydd yn serennu The Blackout a Ocean Colour Scene sydd yn digwydd ar ddydd Sadwrn 3ydd a dydd Sul 4ydd Medi 2011 ym Mharc Cyfartha, Merthyr Tudful.
Cofrestra a rhannu llwyfan gyda dy arwyr drwy ennill Brwydr Y Bandiau Merthyr Rock / CLIC.
Bydd y band llwyddiannus yn agor y prif lwyfan ym Merthyr Rock ar ddydd Sadwrn, 3 Medi. Bydd y ddau fand sydd yn dod yn ail a thrydedd yn chwarae'r ail lwyfan, un ar y dydd Sadwrn, un ar y dydd Sul. Byddwn yn cynnal rowndiau rhanbarthol o amgylch Cymru ddiwedd mis Gorffennaf, gyda'r rownd derfynol yng Nghaerdydd fis Awst.
Dyma'r rowndiau rhanbarthol:
Hobos, Pen-y-bont ar Ogwr – Dydd Gwener 22 Gorffennaf
Sin City, Abertawe – Dydd Sadwrn 23 Gorffenaf
Evi, Ebbw Vale – Dydd Gwener, 29 Gorffennaf
Pop Factory, Porth – Dydd Sadwrn 30 Gorffennaf
Gogledd Cymru, lleoliad a dyddiad i'w gadarnhau
Rownd derfynol Brwydr Y Bandiau:
Clwb Ifor Bach, Caerdydd – Dydd Iau 18 Awst
Mae enillwyr BYB CLIC llynedd, The Hostages, wedi mynd yn eu blaen i ryddhau eu sengl gyntaf fel rhan o'r pecyn wobr, oedd hefyd yn cynnwys fideo anhygoel gall wylio yma.
Mae'r frwydr yn agored i bob math o artistiaid, nid cerddoriaeth gitâr yn unig, felly os wyt ti'n MC, yn ddewin ar yr allweddellau, yn giamstar ar y deciau neu'n beatbox un dyn, rydym eisiau i ti gystadlu.
Sut i gystadlu
Plîs gyrra dy gerddoriaeth drwy linc MySpace, Bandcamp, Facebook neu Soundcloud i botb@cliconline.co.uk. Cofia nodi pa rownd ranbarthol byddet yn hoffi cystadlu ynddi.
Dyddiad cau ceisiadau yw 12 Gorffennaf 2011.
Pob lwc!
Plîs noda fod Brwydr y Bandiau Merthyr Rock / CLIC ar agor i bobl ifanc 14 i 25 oed sydd yn byw yng Nghymru. Bydd rhaid i bob aelod o'r band fod yn 14 oed neu drosodd cyn 3 Medi 2011.

