Croeso i Defaid! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Defaid

header_tagline

Cystadleuaeth DVD Free Style

Postiwyd gan National Editor o Cenedlaethol - Cyhoeddwyd ar 22/04/2010 am 15:42
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Ffilmiau, Yn Gymraeg

English version

Os yw’r enw Corbin Bleu yn golygu rhywbeth i chi, mae’n debyg eich bod yn ffan o High School Musical.

Mae’n fwy adnabyddus fel Chad, un o’r bobl ifanc hynny sydd wedi ei fowldio yn berffaith o’r fasnachfraint honno, ond mae’n anelu at fynd ymlaen ar ei ben ei hun ym myd ffilm.

Canlyniad hynny yw Free Style, ffilm newydd lle mae Bleu yn chwarae Cale Bryant, un sy’n gobeithio gwneud enw ym myd motocross sy’n anelu at ennill teitl mawr yn y gamp honno.

Ar ei daith i’r brig fe’i cefnogir gan deulu, ffrindiau a’r ferch newydd sydd o’i gwmpas, Alex, ond mae tipyn o anlwc a thrafferthion teuluol yn bygwth ei gadw rhag cyrraedd ei nod.

Ydy hyn yn rhywbeth a fyddai’n apelio atoch chi? Wel, efallai y byddech yn ennill un o’r tri chopi o’r DVD sydd i fod i ymddangos ar 26 Ebrill, os gallwch ddefnyddio eich dychymyg a dweud wrthym:

C: Pe baent yn gwneud ffilm newydd o High School Musical wedi ei lleoli yng Nghymru, beth fyddai’n enw mwy addas ar y ffilm?

Rydym yn chwilio am chwarae doniol ar eiriau, defnyddio enwau lleoedd a synnwyr digrifwch drygionus. I roi cynnig arni, ychwanegwch enwau teitl y ffilm fel sylwadau o dan yr erthygl hon. Cyhoeddir y tri enillydd ar ddyddiad rhyddhau’r ffilm: Dydd Llun 26 Ebrill, a hwn hefyd yw’r dyddiad cau.

Pob lwc!

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi. Bydd pawb sy'n cwblhau'r arolwg yn cael y cyfle i ennill �50